Wedi ei sefydlu yn 1996, mae Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn yn hyrwyddo ac annog gweithgaredd cerddorol ymysg plant a phobl ifanc Gwynedd a Môn.
Rydym yn cyflawni hyn trwy:
Ddarparu gwersi offerynnol a lleisiol yn yr ysgolion Benthyca offerynnau cerdd Cynllunio a rhedeg rhaglen all-gyrsiol gynhwysfawr yn cynnwys Bandiau, Ensemblau a Grwpiau rhanbarthol a sirol Mae’r Gwasanaeth yn cael ei reoli gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr, gyda dau aelod o staff yn gyfrifol am y gwaith o redeg y cwmni o ddydd i ddydd.