Bydd pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael mynediad am ddim i blatfform cerddoriaeth ddigidol ddwyieithog newydd i’w helpu i ddysgu eu nodau cerddorol cyntaf.
Mae Charanga Cymru yn blatfform digidol sydd bellach ar gael am ddim i bob ysgol yng Nghymru fel adnodd addysgu a dysgu i gefnogi’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth. Mae’r platfform dwyieithog wedi’i ddatblygu drwy waith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Charanga a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
I helpu athrawon i ddod yn gyfarwydd â’r platfform newydd, bydd pecyn o adnoddau ar gyfer chwe wythnos o waith yn cael ei ddarparu i ddechrau ar gyfer pob un o’r camau cynnydd ym maes y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru. Gall plant fwynhau canu, gwrando ac ymateb, byrfyfyrio, a chreu cerddoriaeth newydd. Bydd yr adnoddau a gynigir yn cynyddu wrth i ni weithio gyda mwy o artistiaid a chyfranwyr Cymreig.
Mae’r platfform yn cynnwys cynllun hyfforddi a datblygu proffesiynol helaeth ar gyfer athrawon ac ymarferwyr er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo’n hyderus i ddefnyddio’r platfform i gefnogi cyflwyno gwersi cerddoriaeth yn ystod y dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Mae hefyd yn cynnwys fideos a nodweddion addysgu a dysgu wedi’u personoli.
Am y tro cyntaf, bydd y platfform hwn ar gael am ddim i ysgolion ledled Cymru, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Fel arfer, mae’n rhaid i ysgolion dalu ffi tanysgrifio i gael mynediad i Charanga – sy’n wasanaeth sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn ysgolion ar draws y DU.
Bydd modd i bob athro yng Nghymru gofrestru a chael mynediad i’r platfform o 27 Hydref ymlaen.
Mae lansio’r platfform yn helpu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru i ehangu mynediad i wersi cerdd ac addysg gerddoriaeth, gan sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc yn gallu elwa ar gyfleoedd i ddysgu chwarae offeryn a chanu a chreu cerddoriaeth yn ein hysgolion a chymunedau.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
“Mae Charanga yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel adnodd addysg cerddoriaeth digidol gwych. Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu adeiladu ar y llwyddiant hwn gyda fersiwn gwbl ddwyieithog sy’n bwrpasol i Gymru, sydd â chynnwys a chyfraniadau diwylliannol cyfoethog gan gerddorion Cymreig. Rwy’n falch iawn y bydd pob athro a disgybl yn gallu defnyddio’r adnodd deniadol hwn am ddim a fydd yn ysbrydoli ein pobl ifanc i ddatblygu eu doniau cerddorol.
“Dyma’r cam diweddaraf wrth i ni weithredu’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerddorol, ac mae’n un ffordd bwysig yr ydym yn sicrhau bod addysg gerddoriaeth ar gael i bawb, waeth beth yw eu cefndir neu ble maent yn byw.”
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Addysg: “Wrth i Wasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol newydd Cymru gael ei gyflwyno, dyma fydd y cyntaf o’r hyn fydd gennym i’w gynnig i blant, pobl ifanc a chymunedau ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf fel rhan o’r Cynllun Cerddoriaeth Cenedlaethol. Mae Charanga yn adnodd arbennig a fydd yn cefnogi addysgu cerddoriaeth i blant a phobl ifanc yn yr ystafell ddosbarth ac yn rhoi’r cyfle cyntaf iddynt brofi’r hyn y gall cerddoriaeth ac offerynnau ei roi iddynt.”
Dywedodd Mari Lloyd Pritchard, Cydlynydd Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru:
“Mae’n bwysig pwysleisio bod hwn yn blatfform digidol sy’n arbennig i ni yng Nghymru. Nid cyfieithiad o’r llwyfan yn Lloegr a’r Alban yn unig ydyw, ond mae yna gynnwys sy’n gwbl Gymreig a hynny’n dangos y cyfoeth o brofiad a thalentau ffres sydd gennym.
“Nid pawb sydd â’r hyder a’r arbenigedd cerddorol i allu dysgu cerddoriaeth yn y dosbarth, ond mae Charanga yn addas i bawb. Ein gobaith yw y bydd hyn, ynghyd â chefnogaeth amhrisiadwy gwasanaethau cerddoriaeth lleol, yn dod yn rhan annatod o fywyd cerddorol yr ysgol.”
Dywedodd Mark Burke, Sylfaenydd Charanga: “Mae wedi bod yn bleser pur gweithio gyda Llywodraeth Cymru, CLlLC, CAGAC ac athrawon ledled Cymru i ddatblygu’r platfform arloesol hwn. Bydd darparu mynediad at dechnoleg addysgol o safon uchel yn cefnogi buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn datblygiad proffesiynol i athrawon a’i chynllun uchelgeisiol i roi offerynnau cerdd yn nwylo miloedd o blant. Mae’r tîm yma yn Charanga yn hynod falch o fod yn rhan o’r prosiect.”