Ar Ddydd Miwsig Cymreig ym mis Mawrth bu athrawon, cerddorion, gwleidyddion a hyd yn oed James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers yn rhannu eu hatgofion nhw am eu profiadau cerddorol cyntaf, er mwyn annog mwy o blant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddoriaeth.
Gobeithio eich bod chi, fel ninnau, wedi bod yn mwynhau’r cyngherddau corau, bandiau ensembles sydd wedi ail-gydio ynddi wedi’r cyfnod Covid hir. Ar ôl i Lywodraeth Cymru fuddsoddi’n helaeth mewn offerynau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi bod yn fendigedig gweld cymaint o’r offerynau yna ar waith mewn cyngherddau ac mewn dosbarthiadau.
Mae llawer o’n gwaith ni fel y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol hefyd yn ymwneud â datblygu partneriaethau gydag asiantaethau sy’n cynnig profiadau a chyfleoedd cerddorol i blant y tu allan i’r dosbarth. Er mwyn sicrhau ein bod yn rhannu newyddion, adnabod cyfleuoedd a dathlu yr arlwy gerddorol sydd ar gael
I blant a phobl ifanc Cymru ry’n ni’n cynnig y cyfle I chi ymuno â Fforwm Agored Gwasnaeeth Cerdd Cenedlaethol Cymru. Dair gwaith y flwyddyn, byddwn yn crwydro I amryw o leoliadau artistig ar hyd a lled Cymru, gan fanteisio hefyd ar y cyfle I daflu golau ar weithgaredd yr ardal benodol honno. Os hoffech chi wneud cais i siarad yn un o’r cyfarfodydd Fforwm, neu os hoffech chi ddod i wrando, cysylltwch â ni ar post@gwasanaethcerdd.cymru.