Pwy ydyn ni?

Beth ydy’r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol?

Y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol sydd yn gyfrifol am roi’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth ar waith. Mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael addysg a chyfleoedd cerddorol, beth bynnag yw eu sefyllfa ariannol. Rydyn ni’n gweithio gyda gwasanaethau cerdd awdurdodau lleol, a sefydliadau cerddorol cenedlaethol a chymunedol ar draws Cymru, i roi mwy o gyfleoedd i blant a phobi ifanc yn eu hardal, gan agor llwybrau cerddorol amrywiol a llesol i bob un.

I bwy mae’r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol?

I blant a phobl lfanc

Er mwyn rhoi’r cyfleoedd cerddorol gorau posib i blant a phobl ifanc Cymru sydd rhwng 3–16 oed, mae’r Gwasanaeth yn tynnu pawb at ei gilydd, er mwyn sicrhau bod llwybr cerddorol unigolyn mor hawdd â phosib, Efallai dy fod eisiau canu, cyfansoddi, dysgu am gerddoriaeth ddigidol, chwarae mewn cerddorfa neu fand, neu yn anelu am brofiad neu hyd yn oed yrfa yn y diwydiant – gallwn dy roi ar ben ffordd. Bydd cyfleoedd i brofi cerddoriaeth fyw o bob math, ac mae gennym ni hefyd lyfrgell o offerynnau ac adnoddau ar gael.

I athrawon ac ysgolion

Gyda’r celfyddydau’n ganolog i’r Cwricwlwm Newydd i Gymru bydd y Gwasanaeth Cerdd hefyd yn cefnogi ac ysbrydoli athrawon drwy gynnig sesiynau Profiadau Cyntaf, cefnogi gwaith dosbarth, hyfforddiant a chynnig llu o brofiadau cerddorol, creadigol newydd. Mae‘r platfform digidol newydd – Charanga Cymru – wedi cael ei greu’n bwrpasol er mwyn eich helpu i gynnal gwers gerddoriaeth yn eich dosbarth, beth bynnag yw eich profiad cerddorol chi. Bydd hynny’n rhoi’r sgiliau a’r hyder i chi helpu plant a phobl ifanc i chwarae, canu, cymryd rhan a chreu cerddoriaeth – yn ein hysgolion a‘n lleoliadau, a hefyd yn ein cymunedau.

Ble gaf i fwy o wybodaeth?

Cysylltwch gyda’ch gwasanaeth cerdd lleol drwy eich athro dosbarth, athro cerdd neu diwtor, neu ewch i’r map ar ein gwefan.