Cafodd Fforwm Agored cyntaf Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol ei gynnal yn Pontio ym Mangor. Crëwyd y Fforwm Agored gan y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol a Fforwm Partneriaeth Cerdd Cymru fel gofod i bobl archwilio pynciau cyfredol mewn addysg cerddoriaeth, clywed am gynnydd y Cynllun Addysg Cerddoriaeth Genedlaethol, rhwydweithio a rhannu cyfleoedd. Thema’r cyfarfod cyntaf hwn oedd llwybrau mewn addysg cerddoriaeth.
Dechreuodd y Fforwm Agored gyda chroeso gan Osian Gwynn, Cyfarwyddwr Pontio, a chyflwyniad gan Gydlynydd Datblygu Celfyddydau Pontio, Mared Elliw Huws, yn archwilio peth o’r gwaith prosiect y mae Pontio yn ei wneud gydag ysgolion a phobl ifanc. Dangosodd cyflwyniad Mared y rhaglen gyfoethog y mae Pontio yn ei chyflwyno i’r gymuned yn ardal y gogledd-orllewin.
Wedi’r croeso cynnes, cawsom gyfres o ddiweddariadau gan y gwahanol bartneriaid sy’n cyflwyno’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerdd yng Nghymru. Rhoddodd Cydlynydd y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, Mari Pritchard, drosolwg o’r rhaglen ledled Cymru a rhai ystadegau allweddol o’r ddarpariaeth hyd yn hyn. Mae’r holl wasanaethau cerddoriaeth ledled Cymru yn cymryd rhan yn y Cynllun, ac mae 60% o ysgolion wedi profi’r rhaglen Profiadau Cyntaf – rhaglen sy’n darparu 6 wythnos o brofiadau cerddoriaeth am ddim i blant ysgolion cynradd; Mae Charanga Cymru wedi cael ei chyflwyno fel llwyfan cerddoriaeth pwrpasol i athrawon yng Nghymru; Mae ensemblau newydd wedi cael eu cyflwyno ym mhob sir, ac mae’r cynnig digidol hefyd yn cynyddu ledled Cymru. Soniodd Mari hefyd am rai o’r partneriaethau a oedd yn cael eu creu gyda sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru a thu hwnt i gefnogi gwaith y Cynllun Cenedlaethol.
Rhoddodd Heather Powell, Cyfarwyddwr Cwmni Cyd-weithredol Cerdd Dinbych a Wrecsam, drosolwg o’r gwaith sy’n digwydd ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys diwrnod hyfforddi ar y cyd i diwtoriaid o bob cornel o’r rhanbarth. Bu Tudur Eames wedyn yn amlinellu’r gwaith a oedd yn cael ei gyflawni drwy Wasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn. Dywedodd wrth y gynulleidfa fod nifer y gwersi cerddoriaeth sy’n cael eu cyflwyno mewn ysgolion yn y ddwy sir wedi cynyddu. Clywodd y fforwm hefyd bod partneriaethau cryf yn cael eu hadeiladu ar draws y rhanbarth rhwng ysgolion, yr awdurdod lleol, ac ystod eang o sefydliadau celfyddydol ac artistiaid i gyflwyno cerddoriaeth a’r Cwricwlwm Celfyddydau Mynegiannol ehangach mewn ysgolion, ac mae pob ysgol wedi derbyn gwerth hyd at £10,000 o offer cerddorol i ddisgyblion weithio gyda nhw. Cafwyd adroddiad hefyd ar raglen Profiadau Cyntaf Gwynedd a Môn gan Catrin Jones. Dangoswyd fideo i ni gan Ysgol Llangoed yn dangos disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau cerddorol gan gynnwys bocsio a phres, a chael clywed gan un o’r athrawon am ei phrofiad hi o’r rhaglen hwn.
Cyflwynodd Tudur Eames astudiaeth achos o’r gwaith sydd wedi bod yn digwydd mewn ysgolion arbennig ar draws y rhanbarth, a chafodd fideo o’r gwaith sydd wedi bod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Addysg Y Bont yn Llangefni ei dangos i’r gynulleidfa. Roedd y fideo yn dangos taith gerddorol pedwar disgybl o’r ganolfan oedd yn dysgu trombôn, piano a drymiau gyda thiwtoriaid un-i-un. Roedd yn wych gweld maint brwdfrydedd y disgyblion, a faint o gynnydd yr oedden nhw wedi’i wneud mewn cyfnod mor fyr.
Nesaf, cawsom weithdy dan arweiniad Alan Thomas Williams, Swyddog Cyflawniad Tîm Cwricwlwm Caerdydd. Amlinellodd Alan brif bwyntiau cwricwlwm y Celfyddydau Mynegiannol ac archwilio pa ran sydd gan cerddoriaeth ynddo. Amlinellodd hefyd y broses o newid sydd ar y gweill ar hyn o bryd o amgylch TGAU. Mae Tîm Cwricwlwm Caerdydd yn cefnogi’r cwricwlwm gyda chynnig o weithgareddau a phrofiadau, gan gysylltu ysgolion, y gwasanaeth cerddoriaeth, a sefydliadau cerddoriaeth ledled Caerdydd gan gynnwys Coleg Cerdd a Drama Frenhinol Cymru, a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Yn olaf, cadeiriodd Tim Rhys-Evans, Cyfarwyddwr Cerdd Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, drafodaeth banel a oedd yn archwilio llwybrau cerddoriaeth yng Nghymru. Ymunodd y cynhyrchydd cerddoriaeth Endaf Roberts, y delynores Elfair Grug, y cerddor a’r trefnydd Nathan Williams, a’r canwr-gyfansoddwr Eadyth Crawford â’r panel, ac fe amlinellodd pob artist eu taith mewn cerddoriaeth a’r hyn oedd wedi dylanwadu arnynt a’u hysbrydoli. Roedd yn ddiddorol gweld y gwahanol ffyrdd yr oedd pob person wedi eu profi. Yr hyn a oedd yn drawiadol oedd yr ystod o sgiliau yr oedd pob aelod o’r panel wedi’u meistroli er mwyn adeiladu eu gyrfa fel cerddor, gan gynnwys addysgu, rhedeg label recordio, cynhyrchu, a hyrwyddo. Cafwyd trafodaeth eang a oedd yn cynnwys nifer o bynciau: sut nad yw dysgu cerddoriaeth yn yr ysgol bob amser yn iawn i bawb a bod angen i rai pobl ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o ymgysylltu â cherddoriaeth; sut i ennyn diddordeb pobl ifanc gyda cherddoriaeth ddigidol nawr bod y feddalwedd honno’n llawer haws ei chyrchu; sut i ddysgu ymwybyddiaeth o fusnes cerddoriaeth; mynediad cyfartal i wahanol offerynnau; sut i adeiladu partneriaethau cryfach gydag Addysg Bellach fel adnodd.
Cawsom hefyd berfformiadau gwych a drefnwyd gan Wasanaeth Cerdd Conwy a Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn ar wahanol adegau yn ystod y prynhawn. Roedd hwn yn gyfle i weld y genhedlaeth nesaf o dalent yn perfformio, gan dod â photensial cerddoriaeth a phwysigrwydd y gwaith sy’n digwydd ar draws holl ecoleg addysg gerddorol a cherddoriaeth ieuenctid yng Nghymru. Daeth y diwrnod i ben gyda thrafodaeth gyfoethog a chyfle i rwydweithio â chydweithwyr.
Rhian Hutchings, Anthem Cymru – Cadeirydd Fforwm Agored Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol.