Pam Cerddoriaeth?
Oes gennych chi ddisgyblion blynyddoedd 7-9 sy’n angerddol am gerddoriaeth?
Gyda’n partneriaid, rydyn ni wedi creu digwyddiad o’r enw ‘Pam Cerddoriaeth?’ i ddangos i bobl ifanc sut y gall cerddoriaeth fel pwnc ysgol agor drysau iddyn nhw.
Mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, byddwn yn cyflwyno unigolion ysbrydoledig sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt i’r disgyblion. Bydd gweithdai, perfformiadau, trafodaethau a stondinau gwybodaeth wedi’u curadu’n arbennig ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 14 oed.
Bydd partneriaid yn y digwyddiad yn cynnwys Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Charanga, Anthem Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a CBAC


