Charanga Cymru Digital Platform
Adnoddau ymarferol a chymorth i helpu athrawon i gyflwyno Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth Cymru a’r cwricwlwm Celfyddydau Mynegiannol.
Mae pob gwasanaeth cerddoriaeth ac ysgol yn cael mynediad llawn at y platfform. Gall athrawon Gwasanaeth Cerddoriaeth gael manylion mewngofnodi o'u gwasanaeth cerddoriaeth.
Dylai athrawon ysgol ddefnyddio'r botwm cofrestru isod i gael manylion mewngofnodi ar gyfer eu hysgol.
Ymunwch am ddimProfiadau Cyntaf
Mae Charanga Cymru yn cynnwys adnoddau addysgu rhyngweithiol ar gyfer offerynnau i ddysgwyr poblogaidd – yn berffaith ar gyfer Profiadau cyntaf a chamau cynnar hyfforddiant cerddorol grwpiau mawr.
Byddwch yn dod o hyd iddynt mewn adran Offerynnau bwrpasol. Maent yn cynnwys ‘Nodau Cyntaf i Fand Cyntaf’, sy’n canolbwyntio ar alluogi plant i brofi llawenydd creu cerddoriaeth drwy chwarae a chanu wrth weithio tuag at eu band ystafell ddosbarth neu berfformiad ensemble mwy cyntaf.
Adnoddau Cwricwlwm i Gymru
Gallwch gael mynediad at lyfrgell o adnoddau Cwricwlwm i Gymru ar gyfer pob Cam Cynnydd i gefnogi gwrando, canu, chwarae’n fyrfyfyr, cyfansoddi a pherfformio. Mae unedau cyferbyniol yn archwilio technoleg cerddoriaeth a dysgu offerynnol.
Mae’r adnoddau addysgu a ddarperir yn amrywio o ganeuon wedi’u hanimeiddio, gwrando, a gweithgareddau byrfyfyr ar gyfer grwpiau oedran iau i brosiect Grime llawn ar gyfer myfyrwyr hŷn, gan ddefnyddio YuStudio, stiwdio gerddoriaeth ar-lein Charanga sy’n addas i ddechreuwyr.
Dathlu Partneriaethau
Mae’r ardal hon o’r wefan yn arddangos adnoddau diwylliannol gyfoethog gan gerddorion Cymreig, arbenigwyr cwricwlwm a sefydliadau partner, gan gynnwys CânSing, Sinfonia Cymru a Trinity College London (Arts Award).
Yumu
Mae Yumu yn fan gwaith ar-lein diogel ar gyfer myfyrwyr sydd yn gorffwys o fewn platfform digidol Charanga Cymru. Yma, gallwch rannu gwersi ac apiau creadigol gyda myfyrwyr a chefnogi eu dysgu rhwng gwersi athu allan i’r ysgol.
Fy Man Gwaith - i athrawon
Ewch i Fy Man Gwaith i drefnu’r adnoddau rydych chi am eu defnyddio yn eich addysgu. Gallwch uwchlwytho eich adnoddau eich hun os dymunwch, creu gwersi, unedau, a chyrsiau, a hyd yn oed cwricwla cyflawn, wedi'u personoleiddio i anghenion eich ysgol.