Mae Cerdd Abertawe yn wasanaeth addysg cerdd peripatetig ar gyfer Dinas a Sir Abertawe. Mae Cerdd Abertawe yn darparu ystod lawn o hyfforddiant cerddoriaeth a gwasanaethau cerdd i gwrdd ag anghenion a dyheadau pob disgybl, yn gyfunol ac yn unigol, a rhai ysgolion a chymunedau lleol.
Mewn ymateb i’r tarfu parhaus ar ddysgu a lles disgyblion wedi’i achosi gan y pandemig, mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg yn annog hyfforddiant cerdd a phrofiadau cerddorol i bob disgybl yn Abertawe i gael disgyblion i ymgysylltu â sgiliau bywyd go iawn, corfforol a pherfformio eto.
Y weledigaeth yw darparu cyfleoedd cerdd cynhwysol i bob disgybl o fewn lleoliad ysgol. Trwy weithio ar y cyd, y ffocws bydd sicrhau bod pob disgybl yn cael profiadau bywyd go iawn yn 2023-2024 a thu hwnt, i wneud yn iawn am y tarfu a achoswyd gan y pandemig. Gyda’r ffocws hwn, Mae Cerdd Abertawe yn cynnig dewislen gyffrous o becynnau CLG Offerynnol a cherdd.
Bydd y rhain yn caniatáu ysgolion i ddewis yr addysg cerddoriaeth sy’n diwallu anghenion eu disgyblion ac ysgol. Mae’r opsiynau CLG, ynghyd â chyflwyniad y Cwricwlwm i Gymru, yn creu cyfleoedd cyffrous i ddatblygu Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn Abertawe, a fydd yn meithrin ymdeimlad o le ac o berthyn, fel yr ymgorfforir yn y gair Cynefin.