Mae Gwasanaeth Cerdd Pen-y-bont ar Ogwr yn ymroddedig i ddarparu hyfforddiant cerddorol o ansawdd ar draws yr holl ystod o offerynnau gan gynnwys llais.
Mae’n cynnwys tîm o gerddorion cymwys proffesiynol ac arbenigol sy’n rhoi hyfforddiant i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd a hefyd yn hyfforddi ensembles cerdd sirol.
Mae ensembles Sirol wedi’u rhedeg gan Wasanaeth Cerdd Pen-y-bont ar Ogwr wedi perfformio mewn lleoliadau perfformio byd enwog megis llwyfan eiconig y Royal Castle Disneyland Paris, Symphony Hall a Neuadd y Dref yn Birmingham, Neuadd Dewi Sant a’r Royal Albert Hall.
“Mae Gwasanaeth Cerdd Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu llawer o gyfleoedd cyfoethogi gwerth chweil i feithrin galluoedd cerddorol disgyblion gan gynnwys cyrsiau preswyl ac addysgu arbenigol mewn grwpiau amrywiol sy’n briodol i’w cyfnod datblygu…Mae’r profiadau hyn yn meithrin eu hyder ac yn eu helpu i ddatblygu eu medrau perfformio i lefel uchel.” Adroddiad arolwg Estyn 2019