Fforwm Agored
Pwrpas ein Fforwm Agored fydd rhoi cyfle i bobl i ddysgu mwy am waith y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, ac i rannu newydd, cyfleoedd a datblygiadau o fewn y gymuned gerddorol ehangach. Bydd y fforwm hefyd yn darparu cyfle i drafod pynciau cyfredol yn y maes addysg cerdd, ac i rwydweithio. Byddwn yn cynnal y fforymau dair gwaith y flwyddyn, mewn lleoliadau ar draws Cymru.
Cyfarfod nesaf
23 MAI 2024, 11:00-16:00
NGHANOLFAN YR EGIN, CAERFYRDDIN
Estynwn wahoddiad i chi i Fforwm Agored nesaf Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, a fydd yn digwydd yng Nghanolfan yr Egin, Caerfyrddin, rhwng 11.00 – 16.00 ar 23 Mai 2024. Ein thema fydd Y Daith Ddigidol.
Pwrpas ein Fforwm Agored yw rhoi cyfle i bobl i ddysgu mwy am waith y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, ac i rannu newyddion, cyfleoedd a datblygiadau o fewn y gymuned gerddorol ehangach. Gyda ffocws y fforwm y tro hwn ar gerddoriaeth ddigidol, byddwn yn dod i ddeall mwy am bwysigrwydd deallusrwydd digidol yn y cwricwlwm newydd, gan gynnwys sesiynnau ymarferol, a chyfle i gyfrannu at drafodaeth banel. Rydym ni’n awyddus iawn i’ch croesawu ac i glywed mwy am eich gwaith CHI.
28 CHWEFROR, 11:00-17:00
YMa, PONTYPRIDD
Ymunwch â ni yng Nghanolfan YMa Pontypridd am y newyddion diweddaraf gan y Gwasanaeth Cerdd yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Edrychwn ymlaen i gymryd cipolwg ar y cyfleoedd cerddorol sydd yna i blant a phobl ifanc ardal Rhondda Cynon Taf a sut mae’r Cynllun Addysg Gerdd Llywodraeth Cymru ar waith yno. Bydd cyfle i rwydweithio, rhannu newyddion a thrafod gydol y dydd.
Yn ein hail Fforwm Agored, bydd y ffocws y tro hwn ar Bartneriaethau. Bydd ganddon ni:
- Gyflwyniadau
- Trafodaethau
- Perfformiadau
Ymhlith y siaradwyr bydd yr Eisteddfod Genedlaethol, YMa Pontypridd, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Gwasanaeth Cerdd RCT, a llawer mwy.
Bydd cyfle hefyd i greu cysylltiadau newydd yn ystod sawl egwyl. Os hoffech chi ddod, mynnwch docyn am ddim. Mae croeso i chi hefyd sicrhau gwagle stondin i arddangos manylion eich mudiad.