Gwobr o £3,000 i offerynwyr ifanc

14/03/2025

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, fydd yn cael ei chynnal yn Wrecsam fis Awst eleni, yn galw ar offerynwyr ifanc i ymgeisio am gystadlaethau sydd â gwobrau hyd at £3,000.

Mae tair cystadleuaeth offerynnol unigol gyda gwobrau ariannol hael i’r enillydd a fyddai’n eu galluogi i barhau i ddatblygu a buddsoddi yn eu hastudiaethau yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys cystadlaethau’r Rhuban Glas ar gyfer offerynnwyr dros 19 oed, rhwng 16-19 oed, a’r rhai 16 oed ac iau. Mae yna gystadleuaeth hefyd ar gyfer ensembles rhwng 2-6 offerynnwr. Gall unrhyw gyfuniad o oedrannau gystadlu yn hwnnw.

Dyddiad cau cofrestru yw 1af o Fai, a gellir cwblhau’r broses gofrestru drwy glicio ar y dolenni isod.