Daeth gweithwyr proffesiynol ym maes caffael o bob cwr o Gymru ynghyd i ddathlu llwyddiannau o bob rhan o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Cafodd ein tîm Cyflawni Masnachol (rhan o Gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol Llywodraeth Cymru) lwyddiant yn y categori Menter Caffael Cydweithredol – gan gipio’r brif wobr am eu gwaith ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ei system brynu ddeinamig ar gyfer offerynnau cerdd.
Sefydlodd y tîm lwybr cydymffurfiol i’r farchnad ar gyfer caffael offerynnau carbon niwtral i’w rhoi i bob disgybl 7 oed yng Nghymru, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a llwybr prynu arloesol. Mae’r dull gweithredu wedi cefnogi economi Cymru, wedi sicrhau’r gwerth gorau am arian, ac wedi creu cyfleoedd gwaith i weithwyr sy’n byw gydag anabledd neu sydd dan anfantais.
I weld yr astudiaeth achos fideo offerynnau cerdd lawn, ac i weld sut y cafodd hyn ei gyflawni, ewch i’n gwefan.
Roedden ni hefyd yn llwyddiannus o ran cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau ‘Cyflawniad Caffael Gorau’ (ar gyfer ein cytundeb prynu deinamig ar gyfer offerynnau cerdd); ‘Gwerth Cymdeithasol’ (ar gyfer ein Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Athrawon Cyflenwi); a ‘Thîm Caffael y Flwyddyn’.
Dywedodd John Coyne, Cyfarwyddwr Caffael a Masnachol:
Roedd llawer o sefydliadau teilwng wedi’u cynrychioli yng Ngwobrau GO Cymru. Rwy’n hynod falch o lwyddiannau ein tîm, nid yn unig wrth gyrraedd y rhestr fer ar gyfer pedwar categori, ond hefyd wrth gipio un o’r prif wobrau. Mae’r gwaith a wnaed o gwmpas y fenter offerynnau cerdd wedi bod yn wych. Mae hon yn enghraifft wych o sut mae caffael yn gallu darparu gwerth cymdeithasol, hyrwyddo cynaliadwyedd, a gwneud gwahaniaeth i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Enillodd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru nifer o wobrau yng Ngwobrau GO Cymru hefyd, gan gynnwys:
- Gwobr Rheoli Contractau a Chyflenwyr
- Gwobr Gwerth Cymdeithasol
- Tîm Caffael y Flwyddyn
- Gwobr Unigolyn y Flwyddyn
- Gwobr Rhagoriaeth GO
Llongyfarchiadau mawr i Mark Roscrow MBE a enillodd y Wobr Llwyddiant Neilltuol.
Mae rhestr lawn o enillwyr Gwobrau GO Cymru i’w gweld yma.
Rydyn ni nawr yn troi ein golygon at Wobrau Arweinyddiaeth Swyddogaeth Fasnachol y Llywodraeth sydd fydd yn cael eu cynnal ar 24 Tachwedd lle rydyn ni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y tri chategori isod. Rydyn ni wedi cyrraedd y rhestr fer o blith 110 o enwebiadau ar draws wyth categori.
- Cyfarwyddiaeth Caffael Masnachol LlC – Tîm y Flwyddyn
- Diwygio’r Broses Gaffael a Swyddfa’r Cabinet – Cydweithio
- Offerynnau Cerdd – Gwerth Cymdeithasol
Pob lwc i bawb sydd wedi’u henwebu.