
Mae Charanga Cymru yn cynnig mwy o sesiynau hyfforddi i ysgolion er mwyn ymateb i’r galw. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno yn y Gymraeg a’r Saesneg ac fe fyddan nhw’n archwilio gwahanol syniadau addysgu yn defnyddio Charanga Cymru, gan gynnwys sut i fwynhau gwrando, canu, a chreu cerddoriaeth gyda’n gilydd yn yr awyr agored.
Mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim, yn cychwyn am 4yp ac yn para hyd at awr. I gofrestru ac i archebu lle, cliciwch isod ar ddyddiad o’ch dewis.
7fed Ebrill & Mai 6ed – Archwiliwch y boddhad o greu cerddoriaeth yn yr awyr agored yr haf hwn (Cyflwyniad Cymraeg).
8fed Ebrill & Mai 12fed – Archwiliwch y boddhad o greu cerddoriaeth yn yr awyr agored yr haf hwn (Cyflwyniad Saesneg).

Am gefnogaeth bersonol, gallwch drefnu cyfarfod 1-1 trwy ein gwasanaeth Charanga Connect gyda Manon Llwyd, Rheolwr DPP a Hyfforddiant Charanga Cymru. Mae’r cyfarfodydd yn rhad ac am ddim i’w mynychu a gellir eu trefnu ar amser sy’n gyfleus i chi trwy’r ddolen hon.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl, cysylltwch â thîm Charanga Cymru. Fe fyddan nhw’n fwy na pharod i’ch helpu.