‘Pam Cerddoriaeth?’ ym Mangor

10/03/2025
Pump o bobl ar lwyfan gyda chynulleidfa tu ol iddyn nhw

Roedd Canolfan Pontio, Bangor, dan ei sang ar 15 Ionawr 2025 wrth i Wasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru gynnal ein digwyddiad ‘Pam Cerddoriaeth?’ cyntaf erioed. Pwrpas y diwrnod oedd dangos wrth ddisgyblion rhwng 12 a 14 oed sut y gall astudio cerddoriaeth yn yr ysgol arwain at amrywiaeth o yrfaoedd a chyfleoedd. Daeth bron i 350 o blant ysgolion uwchradd o bob rhan o Wynedd, Conwy ac Ynys Môn aton ni am ddiwrnod llawn o weithdai, trafodaethau a pherfformiadau – gyda phob sesiwn yn tynnu sylw at y llwybrau sydd ar gael i astudio cerddoriaeth, neu yrfa mewn cerddoriaeth, a hefyd ddangos grym cerddoriaeth ar gyfer iechyd a lles.

Fe wnaeth ein partneriaid – a oedd yn cynnwys Prifysgol Bangor, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC), yr Urdd, Charanga, Anthem Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NoW), Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, Gwasanaeth Cerdd Conwy a Chyd-Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) – gynnal gweithdau a chyflwyniadau oedd yn anelu i ysbrydoli ac addysgu.

Dysgu gan eraill

Fe ddechreuon ni’r diwrnod gyda pherfformiad gan fand jazz Ysgol Friars, Bangor, cyn i ffilm gael ei dangos a oedd yn hyrwyddo’r cyfleusterau a’r cyrsiau recordio a golygu gwych sydd ar gael yng Ngholeg Menai, y coleg addysg bellach ym Mangor. Ac mewn cyflwyniad gan Charanga, fe glywodd y disgyblion bod platfform sain ddigidol (DAW), YuStudio, ar gael iddyn nhw ei ddefnyddio am ddim yn eu hysgolion ac adref trwy Charanga Cymru.

Galeri luniau o’r digwyddiad ‘Pam Cerddoriaeth?’ yn Pontio  

Croesawodd ein partneriaid yr holl ddisgyblion i wahanol sesiynnau sbarduno yn ystod y dydd. Ar y prif lwyfan fe wnaeth BBC NoW a Phrifysgol Bangor dywys disgyblion drwy’r broses o astudio cerddoriaeth glasurol; Daeth Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’r Urdd at ei gilydd i gynnal gweithdy i dynnu sylw at elfennau llesol cerddoriaeth. Mewn sesiwn bwrpasol gan CBAC, fe ddysgodd disgyblion am y TGAU Cerddoriaeth newydd. Ac mewn sesiwn gydag Anthem Cymru fe glywodd y disgyblion fwy am Porth Anthem, sy’n caniatáu i bobl ifanc yng Nghymru sy’n caru cerddoriaeth ddarganfod sut y gallen nhw gymryd rhan.

Roeddem yn ffodus i gael pedwar cerddor gwych sy’n gweithio yn y diwydiant i rannu eu straeon eu hunain, ac i roi syniad i’r disgyblion o’r gwahanol lwybrau i yrfa yn y maes cerddoriaeth. Yn ystod sesiwn holi ac ateb, siaradodd y canwr-gyfansoddwr a’r cyflwynydd radio o dras Jamaica a Chymru, Aleighcia Scott, y cynhyrchydd a cherddor Nate Roberts, y gweinyddwr gyda Birmingham Symphony Orchestra Carolyn Burton, a chwaraewr fiola ac aelod o BBC NoW, Daire Roberts am eu gyrfaoedd, yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu, a sut y gwnaeth cymryd rhan yn y cyfleoedd amrywiol a gawson nhw tra yn yr ysgol ac yn eu cymunedau lunio eu llwybrau gyrfa.

Y gantores Aleighcia Scott a'i pherfformiad gwefreiddiol
Y gantores, ac aelod o’n panel, Aleighcia Scott, yn gweifreiddio’r plant

Roedd mynediad i’r digwyddiad, a thrafnidiaeth, yn rhad ac am ddim i ysgolion sy’n cael eu hariannu gan awdurdodau lleol Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy. Roedd galw mawr am y digwyddiad – gwnaeth dros 800 o ddisgyblion gais am 340 o leoedd. Ar ôl mynychu’r digwyddiad, ac yn dilyn adborth gan eu disgyblion, gofynnodd athrawon o’r ysgolion a fynychodd am gael cynnal ‘Pam Cerddoriaeth?’ yn flynyddol neu bob dwy flynedd, cymaint oedd y mwynhad a’r effaith ar y disgyblion.

Diolch enfawr i’n partneriaid, ein panelwyr a staff y ganolfan, am eu cyd-weithrediad parod yn sicrhau diwrnod llawn dop, ysbrydoliedig, i bawb.