Ein Partneriaid
Un o brif flaenoriaethau’r gwasanaeth cerdd yw partneriaeth gydag ysgolion, cerddorion a sefydliadau ledled Cymru. Rydym yn cydweithio â phartneriaethau addysg gerddoriaeth, grwpiau cerddoriaeth gymunedol, sefydliadau ieuenctid lleol, bandiau pres a chorau, sefydliadau a rhwydweithiau cenedlaethol, awdurdodau lleol, lleoliadau, trefnwyr digwyddiadau, a mwy.
Mae’n bwysig bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael profiad a chyfle i gymryd rhan mewn cerddoriaeth fyw, yn cael mynediad at dechnoleg cerddoriaeth ddigidol, ac yn cymryd rhan mewn mentrau sy’n cefnogi eu llesiant a’u hiechyd meddwl.
Trwy Charanga Cymru, gall pobl ifanc gyrchu a rhyngweithio gydag adnoddau partneriaeth, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys:

Eisteddfod Yr Urdd
Adnoddau i gefnogi rhai o ddarnau cystadlu Eisteddfod yr Urdd. Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio YuStudio i helpu eu ceisiadau yng nghategorïau Cyfansoddi Cerddoriaeth yr ŵyl.

Arts Award
Mae Arts Award yn fframwaith gwych ar gyfer cefnogi dilyniant a dathlu llwyddiant mewn cerddoriaeth. Mae Charanga a Choleg y Drindod Llundain wedi cydweithio i sicrhau bod hyn yn bosibl.

CânSing
Archwiliwch gyfoeth caneuon gwerin traddodiadol Cymreig, caneuon serch hudolus a baledi sy’n arddangos natur esblygol diwylliant a hunaniaeth Cymru dros canrifoedd.

Sinfonia Cymru
Mae Simmy Singh a Delia Stevens wedi creu fersiwn ysbrydoledig o Y Pedwar Tymor. Mae pedwar prosiect gafaelgar gan dîm arbenigol Charanga yn cyflwyno myfyrwyr i'r fersiwn hwn ac hefyd gwaith gwreiddiol Vivaldi.

Anthem — Gofod Gwyb
Dewch o hyd i flogiau, vlogs, canllawiau, adnoddau a mwy - i gyd yn archwilio diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt.