Mewn cydweithrediad gyda Charanga Cymru, mae Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru ac Eisteddfod yr Urdd yn cyhoeddi datblygiad newydd fydd yn agor y drws i fwy o blant Cymru fedru cymryd rhan ym mhrifwyl plant ac ieuenctid Cymru.
Fel rhan o’r bartneriaeth newydd – y cyntaf o’i math rhwng GCC Cymru ac Eisteddfod yr Urdd – bydd traciau ymarfer ar gyfer darnau gosod yn y categorïau canu Blwyddyn 6 ac iau Eisteddfod Sir Drefaldwyn 2024 ar gael ar Charanga Cymru. Gall pob ysgol yng Nghymru gael mynediad i blatfform ar-lein Charanga Cymru am ddim drwy wefan Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru.
Plant blwyddyn 4 o Ysgol Cefn Fforest, Y Coed Duon, Caerffili oedd y cyntaf i ymarfer gyda’r traciau ar safle newydd yr Urdd ar blatfform Charanga Cymru.
Y nod yw cynyddu’r cyfle i blant ddysgu ac ymarfer y darnau gosod wrth roi cyfle i fwy o bobl ifanc a’u hathrawon gymryd rhan yng ngŵyl ddiwylliannol ieuenctid fwyaf Cymru. Yn ogystal â’r traciau ymarfer, gall plant ddefnyddio YuStudio, gweithfan sain ddigidol Charanga (DAW), i gefnogi eu ceisiadau yng nghategorïau Cyfansoddi Cerddoriaeth yr ŵyl.
Bydd y traciau ymarfer yn helpu tiwtoriaid ac yn rhoi cyfle cyfartal i bawb. Mae GCC Cymru ac Eisteddfod yr Urdd hefyd yn bwriadu ychwanegu at y cynnig dros y blynyddoedd nesaf. Ar ôl Eisteddfod Urdd Maldwyn 2024, bydd y traciau yn parhau ar gael i bob ysgol sy’n defnyddio Charanga Cymru i gefnogi eu haddysgu cerddoriaeth o ddydd i ddydd.
Mae Eisteddfod yr Urdd mor falch i gydweithio â Charanga Cymru a Gwasnaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y celfyddydau, a chystadlu yn yr Eisteddfod.
Dyma’r flwyddyn gyntaf i ni ddarparu’r adnoddau hyn, a gobeithiwn dyfu bob blwyddyn i allu darparu traciau ac adnoddau ar gyfer pob un o’n cystadlaethau cerddoriaeth. Cofiwch hefyd bod modd defnyddio Charanga YuStudio i gystadlu yn y cystadlaethau cyfansoddi cerddoriaeth, felly ewch amdani! Gobeithio y cewch chi hwyl yn ymarfer gyda’r adnoddau arbennig hyn, ac fe welwn ni chi’n fuan ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd.
Dywedodd Mari Lloyd Pritchard, Cyd-lynydd Cenedlaethol GCCC:
Mae’r Urdd yn cyfrannu gymaint at addysg gerdd yng Nghymru ac yn cynnig platfform gwerthfawr i gymaint o’n cerddorion ifanc. Dwi’n hynod o falch felly fod y bartneriaeth yma yn ein galluogi ni i leihau unryw rwystr i blentyn, athro neu ysgol i ddysgu caneuon, cynyddu deallusrwydd o ofynion cerddorol copiau a hefyd agor y drws i hwyluso’r cyfle i gyfansoddi. Mae’n cynnig cefnogaeth ar sawl lefel, boed eich bod chi’n gerddor profiadol neu yn rhywun sydd eisiau mwynhau canu neu ymarfer heb bod yna gyfeilydd ar gael bob dydd fel ‘tae.
Rydyn ni hefyd mor ddiolchgar i Eisteddfod yr Urdd am gofleidio’r syniad hwn, ac am recordio’r traciau yma fydd o hyn ymlaen o gymorth i blant wrth ddysgu’r darnau canu. Rhaid hefyd diolch i griw Charanga Cymru sydd wedi mynd ati i greu’r platform digidol yma mewn byr amser, er mwyn i ni allu rhoi’r rhodd hwn i blant ac athrawon ar ddechrau 2024.
Mynediad i Charanga Cymru a’r adnoddau newydd
Gall ysgolion ddod o hyd i’r adnoddau drwy glicio ar dab newydd Eisteddfod yr Urdd pan fyddan nhw yn clicio ar Charanga Cymru nesaf.
Gall ysgolion sydd heb eto gofrestru i gael mynediad at Charanga Cymru am ddim wneud hynny yma: Charanga Cymru Digital Platform – National Music Service for Wales | Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol.
Am fwy y wybodaeth, cyfweliadau a lluniau, cysylltwch a:
Sara Gibson, Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru – sara.gibson@wlga.gov.uk neu 07741 773098
Branwen Rhys Tomos, Urdd Gobaith Cymru – branwenrhys@urdd.org neu 07976 330361